Bois y Gilfach yn brysur!
Ddechrau mis Hydref 2021 oedd hi pan benderfynodd Bois y Gilfach ailafael yn y canu ar ôl y clo mawr, gan wneud hynny dan amodau gwahanol iawn i’r arfer. Cafodd yr ymarferion eu symud dros dro i Gapel Mydroilyn er mwyn cael mwy o le, ac mae dyled y côr yn fawr i swyddogion ac aelodau’r capel am eu caredigrwydd a’u cefnogaeth.
Erbyn diwedd y gwanwyn, roedd y bois yn barod am eu cyngerdd cyntaf ers dros ddwy flynedd! Diolch i Bwyllgor Cronfa Ciliau Aeron/Cilcennin Eisteddfod Ceredigion am y gwahoddiad i berfformio yn Neuadd Cilcennin ddiwedd mis Ebrill, mewn noson i godi hwyl a chodi ymwybyddiaeth o’r ffaith y byddai’r Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn 2022. Cafwyd noson i’w chofio ac roedd mor braf cael canu, cymdeithasu a chefnogi gweithgarwch cymunedol ac elusennol unwaith eto.
Yn ystod y cyngerdd, roedd yn bleser gennym gyflwyno siec o £1,000 i Glwb Cwlwm Cof (Forget me Knot) Ceredigion – yr elusen y buom yn codi arian iddi yn ystod 2019-20. Mae’r elusen yn cynnig cymorth gwerthfawr i bobl â dementia a’u gofalwyr yng Ngheredigion a daeth Jenny Higgins, Cydlynydd y Clwb, i’r cyngerdd i dderbyn y siec ac i sôn ychydig am waith yr elusen.
Yn dilyn hynny, buodd y bois yn diddanu cynulleidfaoedd yng Ngheinewydd – yng ngardd y Llew Du i ddechrau ac yna mewn priodas ddechrau Gorffennaf – cyn troi eu golygon tuag at yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron. Yno, cawsom rannu llwyfan â Dewi Pws yn y Tŷ Gwerin ar y dydd Gwener i berfformio peth o waith ysgafn D. Jacob Davies. Roedd y babell yn orlawn ac roedd gweld pawb o’r gynulleidfa ar eu traed ar ddiwedd y perfformiad yn hwb mawr i hyder y bois. Diolch i bawb a ddaeth i’n cefnogi.
Drannoeth roeddem yn ôl yn Nhregaron, i forio canu ar Lwyfan y Maes y tro hwn, a chafwyd cyfle wedyn i ymlacio a chymdeithasu (a chanu mwy!) yn y bar cyn i’r haul fachlud am y tro olaf ar faes Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion.
Rydym yn awr yn edrych ymlaen at flwyddyn newydd yng nghalendr Bois y Gilfach, sy’n edrych yn brysur yn barod! Ein helusen yn ystod y flwyddyn sydd i ddod yw Ysbyty Plant Arch Noa yng Nghaerdydd, sy’n agos iawn at galonnau aelodau’r côr. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at godi swm teilwng o arian i’r ysbyty drwy ein gweithgarwch yn ystod 2022-23. Os hoffai unrhyw un ymuno â ni, mae croeso i chi ddod i’n hymarferion yn Nhafarn y Gilfach am 8pm bob nos Sul. Bydd croeso mawr i aelodau newydd.