Bois Y Gilfach

Ar gyfer un noson yn unig y cafodd Bois y Gilfach ei ffurfio yn wreiddiol, a hynny i berfformio yn nhafarn Y Castell yn Aberaeron ar nos galan 2010-11.

Cafodd yr aelodau gymaint o fwynhad o’r profiad fel iddyn nhw benderfynu parhau i ganu. Ers hynny, mae’r parti wedi mynd o nerth i nerth gan ddiddanu cynulleidfaoedd mewn neuaddau pentref, capeli ac eglwysi, tafarndai ac amryw leoliadau eraill trwy orllewin Cymru a thu hwnt.

Mae ymarferion yn cael eu cynnal yn Nhafarn Y Gilfach, Mydroilyn, am 8 nos Sul. Os oes gennych ddiddordeb ymuno, mae croeso i chi gysylltu a ni.


Welcome to Bois y Gilfach’s website. We’re a Welsh male voice choir based in west Wales. If you’d like any further details about the choir, please get in touch via the form on our Contact us page.