2018 – Mawrth

Parti meibion ifanc o ran oed (neu ifanc o ran ysbryd!) yw Bois y Gilfach a sefydlwyd chwe blynedd a hanner yn ôl erbyn hyn. Mae’r bois yn hanu’n bennaf o Ddyffryn Aeron, ardal Banc Siôn Cwilt a’r bröydd cyfagos ac maent yn cyfarfod yn wythnosol yn Nhafarn y Gilfach, Mydroilyn i ymarfer dan arweiniad Heledd Williams, Derwen Gam.

Mae’r bois wedi bod yn diddanu cynulleidfaoedd mewn cyngherddau a nosweithiau cymdeithasol yn gyson ers y dechrau gan godi arian i elusennau ac achosion da’n flynyddol. Yn ystod y blynyddoedd cyntaf buont yn codi arian i Ganolfan y Bont (sef canolfan addysg i blant ag anghenion dwys yn Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan); Calonnau Cymru a Sefydliad y Galon (gan brynu dau ddiffibriliwr ar gyfer pentrefi Mydroilyn a Derwen Gam); RABI; a Ward Meurig yn Ysbyty Bronglais.

Dewisodd y parti ddwy elusen i’w cefnogi yn ystod 2016/17, sef Beiciau Gwaed Cymru a Parkinson’s Cymru. Roedd gweithgarwch y flwyddyn yn cynnwys cymryd rhan mewn cyngerdd arbennig gyda Rhys Meirion, Shan Cothi ac Aled Wyn Davies yn Aberystwyth; diddanu cynulleidfaoedd ar stepen ein drws ym Mydroilyn, Ciliau Aeron a Chaerwedros; mentro dair gwaith dros y ffin i Sir Gâr i ganu yng Nghapel Llanddarog, Neuadd Bro Fana yn Ffarmers a Neuadd Pontargothi; a darparu adloniant mewn digwyddiadau cymdeithasol a drefnwyd gan Siambr Fasnach Aberaeron, Cylch Cinio Llambed, Pwyllgor Sioe Aberystwyth, Côr Llanpumsaint, Tafarn y Llew Du, Ceinewydd a Gŵyl Bysgod Aberaeron. Cawsom y fraint hefyd o ganu mewn sawl priodas gan gynnwys priodas Aled, un o’n haelodau, â Diane yn Eglwys Llanon.

Yn ogystal â’r cyngherddau, cawsom gyfle i lwyfannu “Hwyl hael Jacob, y dwli a’r digri” yn Theatr Felin-fach, sef noson i ddathlu gwaith ysgafn D Jacob Davies. Dan arweiniad Dwynwen Lloyd Llywelyn a Heledd, cafodd y parti lawer o hwyl yn dysgu caneuon a limrigau newydd a gafodd eu cydblethu’n gelfydd â rhai o straeon digri Jacob, a gyflwynwyd gan Dewi Pws. Roedd y noson yn llwyddiant ysgubol ac yn brofiad gwerthfawr tu hwnt a fydd yn aros yn y cof am sbel.

Penllanw holl weithgarwch y flwyddyn oedd gallu cyflwyno cyfanswm o £1,500 i Feiciau Gwaed Cymru a Parkinson’s Cymru mewn gwasanaeth Nadolig a gynhaliwyd gan Fois y Gilfach yng Nghapel y Bryn, Pentre’r Bryn ym mis Rhagfyr. Graham Jones dderbyniodd y siec ar ran Beiciau Gwaed Cymru, a’r Parch. Cen Llwyd dderbyniodd y siec ar ran Parkinson’s Cymru.

Mae eleni yr un mor brysur â’r llynedd i’r parti, ac fe gewch chi ychydig o hanes ein hanturiaethau yn ystod 2017/18 pan fyddwn yn cyflwyno siec ar ddiwedd y flwyddyn i Ambiwlans Awyr Cymru, sef yr achos da yr ydym wedi dewis ei gefnogi eleni.

Rydym yn dal i ddenu a chroesawu aelodau newydd (mae gennym tua 30 o aelodau erbyn hyn), felly mae croeso i unrhyw un sy’n mwynhau canu a chymdeithasu ymuno â ni.

Bois y Gilfach yn rhannu £1500.
Heledd Williams, Arweinydd/cyfeilydd ac Arwel Jones, Cadeirydd ar ran Bois y Gilfach yn cyflwyno siec o £750 i’r Parch. Cen Llwyd ar ran Parkinson’s Cymru, sef hanner yr arian a godwyd drwy eu gweithgarwch yn ystod 2016/17. Cafodd siec o £750 ei chyflwyno hefyd i Feiciau Gwaed Cymru.
Pic Tim Jones