Gwaith elusennol gwych Bois y Gilfach
Mae Bois y Gilfach – sy’n hanu o Ddyffryn Aeron, ardal Banc Siôn Cwilt a’r bröydd cyfagos ac sy’n cyfarfod yn wythnosol yn Nhafarn y Gilfach, Mydroilyn i ymarfer – yn parhau i ddiddanu cynulleidfaoedd yn gyson mewn cyngherddau a nosweithiau cymdeithasol. Ers y dechrau mae’r parti wedi bod yn codi arian yn flynyddol i elusennau ac achosion da sy’n cynnwys Canolfan y Bont (y ganolfan addysg i blant ag anghenion dwys yn Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan); Calonnau Cymru a Sefydliad y Galon; RABI; Ward Meurig yn Ysbyty Bronglais; Beiciau Gwaed Cymru; Parkinson’s Cymru ac Ambiwlans Awyr Cymru. Yn ystod 2018/19 dewisodd y bois gefnogi achos sy’n agos iawn at eu calon, sef yr Uned Gemotherapi newydd a fydd yn cael ei hadeiladu cyn bo hir yn Ysbyty Bronglais.
Roedd gweithgarwch y flwyddyn yn cynnwys cymryd rhan mewn nosweithiau cymdeithasol yn Nerwen Gam, Llanfihangel-ar-arth, Clwb Chwaraeon Aberaeron, Talgarreg, Sarnau, Llambed, Llwyncelyn a Cheinewydd; ymuno ag artistiaid eraill i ddilyn ‘Llwybrau Robat Arwyn’ yn Ysgol Bro Teifi, Llandysul; dathlu Gŵyl Dewi yn Neuadd Goffa Aberaeron; canu mewn cymanfa yng Nghribyn; camu i’r llwyfan yng Ngŵyl Gwenlli; a chymryd rhan ym mhriodas Ben, un o aelodau’r parti.
Yn ogystal â mynychu digwyddiadau wedi’u trefnu gan eraill, buodd y bois hefyd yn trefnu ambell weithgaredd eu hunain. Cawsant benwythnos i’w gofio yng Nghaernarfon a Phen Llŷn, diolch i’r trip gwych a drefnwyd gan Arwel (cadeirydd y parti). Yn ystod y penwythnos, daeth cyfle i alw heibio i Ganolfan Ambiwlans Awyr Cymru ger Caernarfon i gyflwyno siec o £1,200 i’r elusen, sef ffrwyth gweithgarwch y bois yn ystod 2017/18. At hynny cynhaliodd y parti wasanaeth Nadolig yng Nghapel Ty’ngwndwn, Felin-fach lle llwyddwyd i godi £1,000 i’r Uned Gemotherapi newydd, diolch i haelioni a charedigrwydd mawr pobl Dyffryn Aeron a ffrindiau’r bois.
Ond uchafbwynt y flwyddyn, heb os, oedd y cyngerdd elusennol a drefnwyd gan Fois y Gilfach yn Neuadd y Celfyddydau, Coleg Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, Llambed ganol mis Ebrill y llynedd. Daeth cynulleidfa o dros 400 o bobl i fwynhau’r arlwy cerddorol a oedd yn cynnwys perfformiadau gan Fois y Gilfach, Rhys Meirion a Chôr Llanddarog. Cafwyd cyfle hefyd i wrando ar yr actores a’r gyflwynwraig Ffion Dafis yn arwain sgwrs am ganser ac am bwysigrwydd gwaith Ward Leri, Ysbyty Bronglais ag Elin Jones AC (llywydd y noson), Arwyn Davies (sy’n aelod o Fois y Gilfach ac a gafodd fudd o driniaeth gemotherapi ar Ward Leri yn ystod 2018/19) a Rhian Prys Jones, nyrs arweiniol y ward.
Pleser mawr ym mis Ionawr eleni oedd mynd i Ward Leri i gyflwyno siec o £10,000 i Dr Elin Jones a’i staff. Roedd yn bleser gwrando ar Dr Elin yn sôn am y bwriad i greu Uned Gemotherapi newydd bwrpasol ym Mronglais a chlywed hefyd bod y gwaith adeiladu ar fin dechrau.
Mae Bois y Gilfach yn ddiolchgar iawn i bawb am eu cefnogaeth gyson a hael i weithgarwch y parti ac maent wrthi’n barod yn codi arian i’w helusen ar gyfer eleni, sef achos da lleol sy’n ceisio gwella bywyd i bobl â dementia neu Glefyd Alzheimer.