2024 – Ionawr

Bois y Gilfach ac Atgof o’r Sêr

Ddechrau mis Mai 2022 oedd hi pan ofynnodd Sue Hughes, arweinydd Côr Tonic o Gaerfyrddin, a fyddai gan Fois y Gilfach ddiddordeb mewn ymuno â’r côr merched i berfformio Atgof o’r Sêr gan Robat Arwyn. Ac wedi derbyn y gwahoddiad, aethom ati yn ystod 2023 i ddysgu’r caneuon (am yn ail â pharatoi ar gyfer digwyddiadau eraill) gyda’r bwriad o gynnal dau gyngerdd elusennol cyn y Nadolig.

Dysgu nodau’r caneuon yn ein hymarferion ein hunain oedd y cam cyntaf i’r ddau gôr. Yna, ganol mis Hydref, dechreuwyd cynnal ymarferion ar y cyd yng Nghapel Pen-y-bont, Pont-tyweli, Llandysul er mwyn rhoi bach o sglein ar y canu. Roedd rhai o’r caneuon yn hen ffefrynnau ac yn gyfarwydd i’r cantorion (Brenin y sêr, Yn llygad y llew) ond roedd ambell gân yn fwy dieithr ac yn fwy o ben tost! Cawsom gwmni Dylan Jones, Pantcefn, Llanarth a’i ddrymiau yn yr ymarferion hynny hefyd, a ychwanegodd gymaint i’r cyfeiliant.

Gwelwyd ffrwyth y gwaith caled yn Neuadd Bronwydd ar 25 Tachwedd ac yn Neuadd y Celfyddydau, Coleg Llambed ar 2 Rhagfyr. Llwyddwyd i werthu pob tocyn ymlaen llaw ar gyfer y ddau gyngerdd, sy’n golygu bod cyfanswm o 750 o bobl wedi dod i fwynhau’r arlwy. Roedd y cyngherddau’n cynnwys perfformiadau ar wahân gan y ddau gôr yn y rhan gyntaf, gyda phawb yn ymuno yn yr ail ran i gyflwyno Atgof o’r Sêr.

Ar y llwyfan yn Neuadd Bronwydd ar gyfer y cyngerdd cyntaf

Rhaid canmol aelodau’r corau am eu gwaith caled a’u hymroddiad i’r ymarferion, a arweiniodd at ddwy noson a fydd yn aros yn y cof am sbel. Roedd gweld y gynulleidfa ar ei thraed yn cymeradwyo’n frwd, ym Mronwydd ac yn Llambed, yn arwydd clir bod y syniad o uno dau gôr o ddwy sir i berfformio campwaith Robat Arwyn wedi bod yn llwyddiant!

Y neuadd yn llawn dop yn Llambed i fwynhau Atgof o’r Sêr gan Robat Arwyn

Ambiwlans Awyr Cymru fydd yn elwa o’r noson a gafodd ei chynnal ym Mronwydd, a bydd yr arian a godwyd yn Llambed yn mynd i’r elusen y mae Bois y Gilfach wedi dewis ei chefnogi yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ac eleni, sef Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru.

Mae’r elusen honno’n agos iawn at galonnau’r bois oherwydd cysylltiad y côr â theulu Penlanlas Isaf, Talsarn. Cafodd Anest, merch Elin ac Emyr (un o denoriaid Bois y Gilfach), ofal arbenigol am saith mis yn Ysbyty Arch Noa yn ystod 2019/2020. Pan ailddechreuodd Bois y Gilfach gwrdd ar ôl y cyfnod clo a phan ddaeth yn bryd meddwl am elusen i’w chefnogi, roedd Ysbyty Arch Noa yn ddewis amlwg i’r côr. Y gobaith yw y bydd gennym swm teilwng o arian i’w drosglwyddo i’r elusen cyn diwedd 2024, ac rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi ein cefnogi ar hyd y daith.

Roedd yn briodol, felly, mai Alun ac Enid Evans, tad-cu a mam-gu Anest, oedd llywyddion ein cyngerdd yn Llambed. Bu Enid yn sôn am eu profiad fel teulu o’r gofal gwych y mae Ysbyty Arch Noa yn ei gynnig i blant a theuluoedd. Heb os, gwnaeth ei geiriau pwrpasol argraff fawr ar bawb ac fe lwyddodd i ddod â gwaith yr elusen yn fyw i’r gynulleidfa.

Alun ac Enid Evans, llywyddion y cyngerdd, yn derbyn anrhegion a oedd yn cynnwys englyn gan Ianto Jones i’w hwyres, Anest  

Fel côr, hoffem ddiolch yn fawr i’r holl fusnesau a’r holl unigolion lleol (dros hanner cant ohonynt i gyd!) a noddodd y cyngerdd yn Llambed. Diolch hefyd am y cyfraniadau ariannol eraill sydd wedi dod i law yn ystod yr wythnosau diwethaf. Bydd y cyfan yn rhan o’r swm a fydd yn cael ei gyflwyno i’r elusen cyn diwedd 2024.

Roedd y cyngherddau yn gyfle i’r bois wisgo’r crysau a’r siacedi newydd sydd wedi’u prynu yn ddiweddar, ac rydym yn ddiolchgar i’r canlynol am eu cyfraniadau tuag at y dillad newydd:

Cynghorau Cymuned Henfynyw, Llanarth, Llandysiliogogo, Llanfihangel Ystrad, Llanllwchaearn a Nantcwnlle

Eunice Colwell, Tafarn y Gilfach, Mydroilyn

Emyr a Sarah Jones, Siop Nisa Ffos-y-ffin

Bydd y cyngerdd nesaf y bydd Bois y Gilfach yn cymryd rhan ynddo yn achlysur go arbennig hefyd. Byddwn yn rhannu’r llwyfan â Chôr Meibion De Cymru yn yr Ysgubor ar Fferm Bargoed, Llwyncelyn nos Sadwrn 9 Mawrth. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!

Côr Tonic a Bois y Gilfach gyda’u harweinyddion, Sue Hughes a Heledd Williams