Blwyddyn arall fisi i Fois y Gilfach!
Ar ddechrau blwyddyn arall yng nghalendr Bois y Gilfach, dyma fwrw golwg yn ôl ar weithgarwch y côr yn ystod y 12 mis diwethaf.
Ddiwedd mis Medi 2022, ar ôl cyffro’r Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron, buom yn diddanu llond sied o gynulleidfa yn Nerwen Gam lle buodd ffrindiau a phlant aelodau’r côr yn cyflwyno eitemau hefyd. Yna, buom yn cymryd rhan mewn Cymanfa Ddiolchgarwch yng Nghapel Mydroilyn ddechrau mis Hydref, cyn mentro i lawr i ogledd Sir Benfro i gynnal noson yn y Ganolfan Ceffylau Gwedd ger Eglwyswrw.
Ar ôl cyflwyno peth o waith ysgafn D. Jacob Davies ar lwyfan y Tŷ Gwerin yn yr Eisteddfod Genedlaethol, cawsom gyfle i ailberfformio’r cyflwyniad yn Theatr Felin-fach ym mis Tachwedd yng nghwmni Undodiaid y Smotyn Du, gan helpu i godi arian i’r Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor. Yna, buom yn cymryd rhan mewn gwasanaeth arbennig a gynhaliwyd yng Nghapel Undodaidd Ciliau Aeron ym mis Mehefin eleni i gyflwyno siec i’r elusen, er cof am y diweddar Barchedig Cen Llwyd a fu’n gyfaill triw i’r côr.
Cawsom gyfle i ganu mewn Cymanfa arall yng Nghapel Mydroilyn ddechrau mis Rhagfyr – Cymanfa Garolau y tro hwn – dan nawdd un o Bwyllgorau Codi Arian Sioe’r Cardis. Roeddem yn bwriadu parhau â’n gweithgarwch Nadoligaidd wedyn drwy gynnal gwasanaeth yn Eglwys Llanerchaeron, ond daeth y tywydd gaeafol ar ein traws yn anffodus.
Ym mis Mawrth a mis Ebrill eleni, cawsom dri chyngerdd mewn tair sir. Roedd y cyngerdd cyntaf ar stepen ein drws ar Fferm Bargoed yn Llwyncelyn lle buom yn rhannu’r llwyfan â Chôr Meibion De Cymru. Roedd yr ail gyngerdd yn Neuadd Ffynnongroes yn Sir Benfro, a’r trydydd yn Neuadd Pontargothi yn Sir Gâr. Ac yn Sir Gâr hefyd y daeth ein blwyddyn o ganu i ben, pan wnaethom ymuno ag Ysgol Llanllwni i gynnal cyngerdd ar noson dwym ym mis Mehefin!
Ar wahân i’r gweithgarwch uchod, mae’r bois hefyd wedi bod yn paratoi ar gyfer dau gyngerdd arbennig sydd i’w cynnal ddiwedd mis Tachwedd a dechrau mis Rhagfyr eleni. Yn y cyngherddau hynny, byddwn yn ymuno â Chôr Tonic o Gaerfyrddin (yr arweinydd yw Sue Hughes, Llanarth gynt) i berfformio Atgof o’r Sêr gan Robat Arwyn. Bydd y cyngerdd cyntaf yn Neuadd Bronwydd ger Caerfyrddin nos Sadwrn 25 Tachwedd, a bydd yr ail gyngerdd yn Neuadd y Celfyddydau ar Gampws y Coleg yn Llambed nos Sadwrn 2 Rhagfyr.
Bydd elw’r ail gyngerdd yn mynd i’r elusen yr ydym wedi dewis ei chefnogi yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ac yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, sef Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru, sy’n agos iawn at galonnau aelodau’r côr. Cofiwch gadw 2 Rhagfyr 2023 yn rhydd felly – bydd rhagor o fanylion am y tocynnau ar gael yn fuan.
Os hoffai unrhyw un ymuno â ni i fwynhau canu a chymdeithasu, dewch draw i’n hymarferion yn Nhafarn y Gilfach, Mydroilyn am 8pm bob nos Sul neu cysylltwch â ni drwy ein tudalen Facebook. Mae croeso cynnes bob amser i aelodau newydd.
