{"id":250,"date":"2025-02-18T12:49:54","date_gmt":"2025-02-18T12:49:54","guid":{"rendered":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/?page_id=250"},"modified":"2025-02-18T12:54:36","modified_gmt":"2025-02-18T12:54:36","slug":"2024-ionawr","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/2024-ionawr\/","title":{"rendered":"2024 &#8211; Ionawr"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Bois y Gilfach ac Atgof o\u2019r S\u00ear<\/h2>\n\n\n\n<p>Ddechrau mis Mai 2022 oedd hi pan ofynnodd Sue Hughes, arweinydd C\u00f4r Tonic o Gaerfyrddin, a fyddai gan Fois y Gilfach ddiddordeb mewn ymuno \u00e2\u2019r c\u00f4r merched i berfformio Atgof o\u2019r S\u00ear gan Robat Arwyn. Ac wedi derbyn y gwahoddiad, aethom ati yn ystod 2023 i ddysgu\u2019r caneuon (am yn ail \u00e2 pharatoi ar gyfer digwyddiadau eraill) gyda\u2019r bwriad o gynnal dau gyngerdd elusennol cyn y Nadolig.<\/p>\n\n\n\n<p>Dysgu nodau\u2019r caneuon yn ein hymarferion ein hunain oedd y cam cyntaf i\u2019r ddau g\u00f4r. Yna, ganol mis Hydref, dechreuwyd cynnal ymarferion ar y cyd yng Nghapel Pen-y-bont, Pont-tyweli, Llandysul er mwyn rhoi bach o sglein ar y canu. Roedd rhai o\u2019r caneuon yn hen ffefrynnau ac yn gyfarwydd i\u2019r cantorion (Brenin y s\u00ear, Yn llygad y llew) ond roedd ambell g\u00e2n yn fwy dieithr ac yn fwy o ben tost! Cawsom gwmni Dylan Jones, Pantcefn, Llanarth a\u2019i ddrymiau yn yr ymarferion hynny hefyd, a ychwanegodd gymaint i\u2019r cyfeiliant.<\/p>\n\n\n\n<p>Gwelwyd ffrwyth y gwaith caled yn Neuadd Bronwydd ar 25 Tachwedd ac yn Neuadd y Celfyddydau, Coleg Llambed ar 2 Rhagfyr. Llwyddwyd i werthu pob tocyn ymlaen llaw ar gyfer y ddau gyngerdd, sy\u2019n golygu bod cyfanswm o 750 o bobl wedi dod i fwynhau\u2019r arlwy. Roedd y cyngherddau\u2019n cynnwys perfformiadau ar wah\u00e2n gan y ddau g\u00f4r yn y rhan gyntaf, gyda phawb yn ymuno yn yr ail ran i gyflwyno Atgof o\u2019r S\u00ear.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><a href=\"https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/IMG_20240119_144937.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"606\" src=\"https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/IMG_20240119_144937-1024x606.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-258\" srcset=\"https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/IMG_20240119_144937-1024x606.jpg 1024w, https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/IMG_20240119_144937-300x177.jpg 300w, https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/IMG_20240119_144937-768x454.jpg 768w, https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/IMG_20240119_144937-1536x908.jpg 1536w, https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/IMG_20240119_144937.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><figcaption class=\"wp-element-caption\">Ar y llwyfan yn Neuadd Bronwydd ar gyfer y cyngerdd cyntaf<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p>Rhaid canmol aelodau\u2019r corau am eu gwaith caled a\u2019u hymroddiad i\u2019r ymarferion, a arweiniodd at ddwy noson a fydd yn aros yn y cof am sbel. Roedd gweld y gynulleidfa ar ei thraed yn cymeradwyo\u2019n frwd, ym Mronwydd ac yn Llambed, yn arwydd clir bod y syniad o uno dau g\u00f4r o ddwy sir i berfformio campwaith Robat Arwyn wedi bod yn llwyddiant!<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><a href=\"https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/received_1070130717327880.jpeg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/received_1070130717327880.jpeg\" alt=\"\" class=\"wp-image-254\" srcset=\"https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/received_1070130717327880.jpeg 1024w, https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/received_1070130717327880-300x169.jpeg 300w, https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/received_1070130717327880-768x432.jpeg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><figcaption class=\"wp-element-caption\">Y neuadd yn llawn dop yn Llambed i fwynhau Atgof o\u2019r S\u00ear gan Robat Arwyn<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p>Ambiwlans Awyr Cymru fydd yn elwa o\u2019r noson a gafodd ei chynnal ym Mronwydd, a bydd yr arian a godwyd yn Llambed yn mynd i\u2019r elusen y mae Bois y Gilfach wedi dewis ei chefnogi yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ac eleni, sef Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r elusen honno\u2019n agos iawn at galonnau\u2019r bois oherwydd cysylltiad y c\u00f4r \u00e2 theulu Penlanlas Isaf, Talsarn. Cafodd Anest, merch Elin ac Emyr (un o denoriaid Bois y Gilfach), ofal arbenigol am saith mis yn Ysbyty Arch Noa yn ystod 2019\/2020. Pan ailddechreuodd Bois y Gilfach gwrdd ar \u00f4l y cyfnod clo a phan ddaeth yn bryd meddwl am elusen i\u2019w chefnogi, roedd Ysbyty Arch Noa yn ddewis amlwg i\u2019r c\u00f4r. Y gobaith yw y bydd gennym swm teilwng o arian i\u2019w drosglwyddo i\u2019r elusen cyn diwedd 2024, ac rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi ein cefnogi ar hyd y daith.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd yn briodol, felly, mai Alun ac Enid Evans, tad-cu a mam-gu Anest, oedd llywyddion ein cyngerdd yn Llambed. Bu Enid yn s\u00f4n am eu profiad fel teulu o\u2019r gofal gwych y mae Ysbyty Arch Noa yn ei gynnig i blant a theuluoedd. Heb os, gwnaeth ei geiriau pwrpasol argraff fawr ar bawb ac fe lwyddodd i ddod \u00e2 gwaith yr elusen yn fyw i\u2019r gynulleidfa.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><a href=\"https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/IMG_20240119_144641.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"586\" src=\"https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/IMG_20240119_144641-1024x586.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-256\" srcset=\"https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/IMG_20240119_144641-1024x586.jpg 1024w, https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/IMG_20240119_144641-300x172.jpg 300w, https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/IMG_20240119_144641-768x440.jpg 768w, https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/IMG_20240119_144641-1536x879.jpg 1536w, https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/IMG_20240119_144641.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><figcaption class=\"wp-element-caption\">Alun ac Enid Evans, llywyddion y cyngerdd, yn derbyn anrhegion a oedd yn cynnwys englyn gan Ianto Jones i\u2019w hwyres, Anest \u00a0<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p>Fel c\u00f4r, hoffem ddiolch yn fawr i\u2019r holl fusnesau a\u2019r holl unigolion lleol (dros hanner cant ohonynt i gyd!) a noddodd y cyngerdd yn Llambed. Diolch hefyd am y cyfraniadau ariannol eraill sydd wedi dod i law yn ystod yr wythnosau diwethaf. Bydd y cyfan yn rhan o\u2019r swm a fydd yn cael ei gyflwyno i\u2019r elusen cyn diwedd 2024.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd y cyngherddau yn gyfle i\u2019r bois wisgo\u2019r crysau a\u2019r siacedi newydd sydd wedi\u2019u prynu yn ddiweddar, ac rydym yn ddiolchgar i\u2019r canlynol am eu cyfraniadau tuag at y dillad newydd:<\/p>\n\n\n\n<p>Cynghorau Cymuned Henfynyw, Llanarth, Llandysiliogogo, Llanfihangel Ystrad, Llanllwchaearn a Nantcwnlle<\/p>\n\n\n\n<p>Eunice Colwell, Tafarn y Gilfach, Mydroilyn<\/p>\n\n\n\n<p>Emyr a Sarah Jones, Siop Nisa Ffos-y-ffin<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y cyngerdd nesaf y bydd Bois y Gilfach yn cymryd rhan ynddo yn achlysur go arbennig hefyd. Byddwn yn rhannu\u2019r llwyfan \u00e2 Ch\u00f4r Meibion De Cymru yn yr Ysgubor ar Fferm Bargoed, Llwyncelyn nos Sadwrn 9 Mawrth. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><a href=\"https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/Bois-y-Gilfach-Ionawr-2024-scaled.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"461\" src=\"https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/Bois-y-Gilfach-Ionawr-2024-1024x461.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-251\" srcset=\"https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/Bois-y-Gilfach-Ionawr-2024-1024x461.jpg 1024w, https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/Bois-y-Gilfach-Ionawr-2024-300x135.jpg 300w, https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/Bois-y-Gilfach-Ionawr-2024-768x346.jpg 768w, https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/Bois-y-Gilfach-Ionawr-2024-1536x692.jpg 1536w, https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/Bois-y-Gilfach-Ionawr-2024-2048x923.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><figcaption class=\"wp-element-caption\">C\u00f4r Tonic a Bois y Gilfach gyda\u2019u harweinyddion, Sue Hughes a Heledd Williams<\/figcaption><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Bois y Gilfach ac Atgof o\u2019r S\u00ear Ddechrau mis Mai 2022 oedd hi pan ofynnodd Sue Hughes, arweinydd C\u00f4r Tonic o Gaerfyrddin, a fyddai gan Fois y Gilfach ddiddordeb mewn ymuno \u00e2\u2019r c\u00f4r merched i berfformio Atgof o\u2019r S\u00ear gan Robat Arwyn. Ac wedi derbyn y gwahoddiad, aethom ati yn ystod 2023 i ddysgu\u2019r caneuon [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-250","page","type-page","status-publish","hentry"],"translation":{"provider":"WPGlobus","version":"3.0.2","language":"gb","enabled_languages":["cy","gb"],"languages":{"cy":{"title":true,"content":true,"excerpt":false},"gb":{"title":false,"content":false,"excerpt":false}}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/250","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=250"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/250\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":260,"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/250\/revisions\/260"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=250"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}