{"id":247,"date":"2025-02-18T12:46:20","date_gmt":"2025-02-18T12:46:20","guid":{"rendered":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/?page_id=247"},"modified":"2025-02-18T12:56:44","modified_gmt":"2025-02-18T12:56:44","slug":"2023-medi","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/2023-medi\/","title":{"rendered":"2023 &#8211; Medi"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Blwyddyn arall fisi i Fois y Gilfach!<\/h2>\n\n\n\n<p>Ar ddechrau blwyddyn arall yng nghalendr Bois y Gilfach, dyma fwrw golwg yn \u00f4l ar weithgarwch y c\u00f4r yn ystod y 12 mis diwethaf.<\/p>\n\n\n\n<p>Ddiwedd mis Medi 2022, ar \u00f4l cyffro\u2019r Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron, buom yn diddanu llond sied o gynulleidfa yn Nerwen Gam lle buodd ffrindiau a phlant aelodau\u2019r c\u00f4r yn cyflwyno eitemau hefyd. Yna, buom yn cymryd rhan mewn Cymanfa Ddiolchgarwch yng Nghapel Mydroilyn ddechrau mis Hydref, cyn mentro i lawr i ogledd Sir Benfro i gynnal noson yn y Ganolfan Ceffylau Gwedd ger Eglwyswrw.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar \u00f4l cyflwyno peth o waith ysgafn D. Jacob Davies ar lwyfan y T\u0177 Gwerin yn yr Eisteddfod Genedlaethol, cawsom gyfle i ailberfformio\u2019r cyflwyniad yn Theatr Felin-fach ym mis Tachwedd yng nghwmni Undodiaid y Smotyn Du, gan helpu i godi arian i\u2019r Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor. Yna, buom yn cymryd rhan mewn gwasanaeth arbennig a gynhaliwyd yng Nghapel Undodaidd Ciliau Aeron ym mis Mehefin eleni i gyflwyno siec i\u2019r elusen, er cof am y diweddar Barchedig Cen Llwyd a fu\u2019n gyfaill triw i\u2019r c\u00f4r.<\/p>\n\n\n\n<p>Cawsom gyfle i ganu mewn Cymanfa arall yng Nghapel Mydroilyn ddechrau mis Rhagfyr &#8211; Cymanfa Garolau y tro hwn &#8211; dan nawdd un o Bwyllgorau Codi Arian Sioe\u2019r Cardis. Roeddem yn bwriadu parhau \u00e2\u2019n gweithgarwch Nadoligaidd wedyn drwy gynnal gwasanaeth yn Eglwys Llanerchaeron, ond daeth y tywydd gaeafol ar ein traws yn anffodus.<\/p>\n\n\n\n<p>Ym mis Mawrth a mis Ebrill eleni, cawsom dri chyngerdd mewn tair sir. Roedd y cyngerdd cyntaf ar stepen ein drws ar Fferm Bargoed yn Llwyncelyn lle buom yn rhannu\u2019r llwyfan \u00e2 Ch\u00f4r Meibion De Cymru. Roedd yr ail gyngerdd yn Neuadd Ffynnongroes yn Sir Benfro, a\u2019r trydydd yn Neuadd Pontargothi yn Sir G\u00e2r. Ac yn Sir G\u00e2r hefyd y daeth ein blwyddyn o ganu i ben, pan wnaethom ymuno ag Ysgol Llanllwni i gynnal cyngerdd ar noson dwym ym mis Mehefin!<\/p>\n\n\n\n<p>Ar wah\u00e2n i\u2019r gweithgarwch uchod, mae\u2019r bois hefyd wedi bod yn paratoi ar gyfer dau gyngerdd arbennig sydd i\u2019w cynnal ddiwedd mis Tachwedd a dechrau mis Rhagfyr eleni. Yn y cyngherddau hynny, byddwn yn ymuno \u00e2 Ch\u00f4r Tonic o Gaerfyrddin (yr arweinydd yw Sue Hughes, Llanarth gynt) i berfformio Atgof o\u2019r S\u00ear gan Robat Arwyn. Bydd y cyngerdd cyntaf yn Neuadd Bronwydd ger Caerfyrddin nos Sadwrn 25 Tachwedd, a bydd yr ail gyngerdd yn Neuadd y Celfyddydau ar Gampws y Coleg yn Llambed nos Sadwrn 2 Rhagfyr.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd elw\u2019r ail gyngerdd yn mynd i\u2019r elusen yr ydym wedi dewis ei chefnogi yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ac yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, sef Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru, sy\u2019n agos iawn at galonnau aelodau\u2019r c\u00f4r. Cofiwch gadw 2 Rhagfyr 2023 yn rhydd felly \u2013 bydd rhagor o fanylion am y tocynnau ar gael yn fuan.<\/p>\n\n\n\n<p>Os hoffai unrhyw un ymuno \u00e2 ni i fwynhau canu a chymdeithasu, dewch draw i\u2019n hymarferion yn Nhafarn y Gilfach, Mydroilyn am 8pm bob nos Sul neu cysylltwch \u00e2 ni drwy ein tudalen Facebook. Mae croeso cynnes bob amser i aelodau newydd.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><a href=\"https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/Bois-y-Gilfach-Cilcennin-Medi-2023.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"386\" src=\"https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/Bois-y-Gilfach-Cilcennin-Medi-2023-1024x386.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-248\" srcset=\"https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/Bois-y-Gilfach-Cilcennin-Medi-2023-1024x386.jpg 1024w, https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/Bois-y-Gilfach-Cilcennin-Medi-2023-300x113.jpg 300w, https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/Bois-y-Gilfach-Cilcennin-Medi-2023-768x289.jpg 768w, https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/Bois-y-Gilfach-Cilcennin-Medi-2023-1536x578.jpg 1536w, https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/Bois-y-Gilfach-Cilcennin-Medi-2023.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><figcaption class=\"wp-element-caption\">Y bois yn diddanu\u2019r gynulleidfa yn yr Ysgubor ar Fferm Bargoed, Llwyncelyn ddechrau mis Mawrth. Bydd noson debyg yn cael ei chynnal eto ym mis Mawrth 2024.<\/figcaption><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Blwyddyn arall fisi i Fois y Gilfach! Ar ddechrau blwyddyn arall yng nghalendr Bois y Gilfach, dyma fwrw golwg yn \u00f4l ar weithgarwch y c\u00f4r yn ystod y 12 mis diwethaf. Ddiwedd mis Medi 2022, ar \u00f4l cyffro\u2019r Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron, buom yn diddanu llond sied o gynulleidfa yn Nerwen Gam lle buodd ffrindiau [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-247","page","type-page","status-publish","hentry"],"translation":{"provider":"WPGlobus","version":"3.0.2","language":"gb","enabled_languages":["cy","gb"],"languages":{"cy":{"title":true,"content":true,"excerpt":false},"gb":{"title":false,"content":false,"excerpt":false}}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/247","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=247"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/247\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":263,"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/247\/revisions\/263"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=247"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}