{"id":233,"date":"2025-02-17T13:57:18","date_gmt":"2025-02-17T13:57:18","guid":{"rendered":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/?page_id=233"},"modified":"2025-02-17T13:57:19","modified_gmt":"2025-02-17T13:57:19","slug":"2025-chwefror","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/2025-chwefror\/","title":{"rendered":"2025 &#8211; Chwefror"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Bois y Gilfach yn cyflwyno swm anhygoel o arian i Ysbyty Arch Noa<\/h2>\n\n\n\n<p>Bob blwyddyn ers ei sefydlu, mae c\u00f4r Bois y Gilfach wedi bod yn dewis achosion da lleol a chenedlaethol i\u2019w cefnogi. Yn ystod y deng mlynedd cyntaf, llwyddodd y c\u00f4r i godi cyfanswm o \u00a317,500 er budd achosion da a oedd yn cynnwys Canolfan y Bont Llambed; Calonnau Cymru a Sefydliad Prydeinig y Galon; RABI; Ward Meurig, Ysbyty Bronglais; Parkinson\u2019s Cymru; Beiciau Gwaed Cymru; Ambiwlans Awyr Cymru; Uned Gemotherapi, Ysbyty Bronglais a Chwlwm Cof Ceredigion (elusen sy\u2019n ymwneud \u00e2 gofal dementia).<\/p>\n\n\n\n<p>Pan ddaeth yn bryd dewis elusen ym mis Medi 2022, penderfynodd y c\u00f4r gefnogi Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru yng Nghaerdydd. Mae\u2019r elusen honno\u2019n agos iawn at galonnau\u2019r bois oherwydd cysylltiad y c\u00f4r \u00e2 theulu Penlanlas Isaf, Talsarn. Cafodd Anest, merch Elin ac Emyr (un o denoriaid Bois y Gilfach), ofal arbenigol am saith mis yn Ysbyty Arch Noa yn ystod 2019\/2020 ac mae\u2019n dal i ymweld \u00e2\u2019r ysbyty yn achlysurol.<\/p>\n\n\n\n<p>Ym mis Ionawr eleni, daeth cyfle i griw o\u2019r bois a ffrindiau\u2019r c\u00f4r fynd am drip i Ysbyty Arch Noa i drosglwyddo\u2019r swm anhygoel o \u00a316,000. Fel c\u00f4r, hoffem ddiolch yn fawr i bawb am bob cymorth, cefnogaeth a chyfraniad ariannol a\u2019i gwnaeth yn bosibl i ni drosglwyddo swm mor anrhydeddus i\u2019r elusen. Ond nid dyna\u2019r cyfan. Yr eisin ar y gacen oedd bod y swm hwnnw wedi\u2019i ddyblu i \u00a332,000 ym mis Rhagfyr 2024 drwy ymgyrch arbennig gan Ysbyty Arch Noa cyn y Nadolig, sef \u201cThe Big Give Christmas Challenge\u201d.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><a href=\"https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/Bois-y-Gilfach-Ysbyty-Arch-Noa.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" src=\"https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/Bois-y-Gilfach-Ysbyty-Arch-Noa-1024x768.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-234\" srcset=\"https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/Bois-y-Gilfach-Ysbyty-Arch-Noa-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/Bois-y-Gilfach-Ysbyty-Arch-Noa-300x225.jpg 300w, https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/Bois-y-Gilfach-Ysbyty-Arch-Noa-768x576.jpg 768w, https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/Bois-y-Gilfach-Ysbyty-Arch-Noa-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/Bois-y-Gilfach-Ysbyty-Arch-Noa.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><figcaption class=\"wp-element-caption\">Bois y Gilfach yn Ysbyty Arch Noa yn cyflwyno siec i gynrychiolwyr yr elusen ym mis Ionawr<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p>Diolch yn fawr i gynrychiolwyr yr elusen am eu croeso cynnes ac am roi o\u2019u hamser i s\u00f4n wrth bawb am waith yr ysbyty sy\u2019n gofalu am 90,000 o blant bob blwyddyn. Roedd yr ysbyty\u2019n ddiolchgar dros ben i\u2019r c\u00f4r, nid yn unig am godi arian ond hefyd am godi ymwybyddiaeth. Bydd yr arian a drosglwyddwyd yn mynd i Ap\u00eal \u201cSparkle\u201d yr ysbyty, sy\u2019n canolbwyntio ar ddod ag ychydig o lawenydd a hwyl i fywydau pobl sy\u2019n treulio amser yno. Mae gweithgareddau\u2019r ap\u00eal yn cynnwys dathlu achlysuron arbennig, gofalu am les rhieni yn yr ysbyty a chynnig gweithgareddau y gall cleifion eu mwynhau gyda\u2019u teuluoedd.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn dilyn yr ymweliad \u00e2\u2019r ysbyty, cafwyd cyfle i gymdeithasu yng nghanol Caerdydd cyn troi am adre a mwynhau swper ar y ffordd yn Llangennech.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r bois wedi bod yn brysur unwaith eto ers mis Medi 2024 yn diddanu cynulleidfaoedd ledled Ceredigion, a\u2019r achos da y maent wedi dewis ei gefnogi eleni yw\u2019r Uned Ddialysis yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth. Edrychwn ymlaen at barhau i ganu a mwynhau yn ystod 2025!<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><a href=\"https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/Bois-y-Gilfach-Cinio-Blynyddol-2025.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"487\" src=\"https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/Bois-y-Gilfach-Cinio-Blynyddol-2025-1024x487.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-235\" srcset=\"https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/Bois-y-Gilfach-Cinio-Blynyddol-2025-1024x487.jpg 1024w, https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/Bois-y-Gilfach-Cinio-Blynyddol-2025-300x143.jpg 300w, https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/Bois-y-Gilfach-Cinio-Blynyddol-2025-768x365.jpg 768w, https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/Bois-y-Gilfach-Cinio-Blynyddol-2025-1536x730.jpg 1536w, https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/Bois-y-Gilfach-Cinio-Blynyddol-2025.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><figcaption class=\"wp-element-caption\">Bois y Gilfach gyda\u2019r siec yn eu cinio blynyddol a gynhaliwyd yng Nghlwb Chwaraeon Aberaeron ym mis Chwefror<\/figcaption><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Bois y Gilfach yn cyflwyno swm anhygoel o arian i Ysbyty Arch Noa Bob blwyddyn ers ei sefydlu, mae c\u00f4r Bois y Gilfach wedi bod yn dewis achosion da lleol a chenedlaethol i\u2019w cefnogi. Yn ystod y deng mlynedd cyntaf, llwyddodd y c\u00f4r i godi cyfanswm o \u00a317,500 er budd achosion da a oedd yn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-233","page","type-page","status-publish","hentry"],"translation":{"provider":"WPGlobus","version":"3.0.2","language":"gb","enabled_languages":["cy","gb"],"languages":{"cy":{"title":true,"content":true,"excerpt":false},"gb":{"title":false,"content":false,"excerpt":false}}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/233","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=233"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/233\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":236,"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/233\/revisions\/236"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=233"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}