{"id":216,"date":"2023-03-03T09:48:03","date_gmt":"2023-03-03T09:48:03","guid":{"rendered":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/?page_id=216"},"modified":"2023-03-03T09:51:03","modified_gmt":"2023-03-03T09:51:03","slug":"2022-medi","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/2022-medi\/","title":{"rendered":"2022 &#8211; Medi"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Bois y Gilfach yn brysur!<\/h2>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large is-resized\"><a href=\"https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/03\/Bois-y-Gilfach-Ty-Gwerin-5-8-22.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/03\/Bois-y-Gilfach-Ty-Gwerin-5-8-22-1024x768.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-217\" width=\"800\" srcset=\"https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/03\/Bois-y-Gilfach-Ty-Gwerin-5-8-22-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/03\/Bois-y-Gilfach-Ty-Gwerin-5-8-22-300x225.jpg 300w, https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/03\/Bois-y-Gilfach-Ty-Gwerin-5-8-22-768x576.jpg 768w, https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/03\/Bois-y-Gilfach-Ty-Gwerin-5-8-22.jpg 1080w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><figcaption class=\"wp-element-caption\">Bois y Gilfach gyda Dewi Pws yn cyflwyno peth o waith ysgafn D. Jacob Davies yn y T\u0177 Gwerin yn yr Eisteddfod Genedlaethol<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p>Ddechrau mis Hydref 2021 oedd hi pan benderfynodd Bois y Gilfach ailafael yn y canu ar \u00f4l y clo mawr, gan wneud hynny dan amodau gwahanol iawn i\u2019r arfer. Cafodd yr ymarferion eu symud dros dro i Gapel Mydroilyn er mwyn cael mwy o le, ac mae dyled y c\u00f4r yn fawr i swyddogion ac aelodau\u2019r capel am eu caredigrwydd a\u2019u cefnogaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Erbyn diwedd y gwanwyn, roedd y bois yn barod am eu cyngerdd cyntaf ers dros ddwy flynedd! Diolch i Bwyllgor Cronfa Ciliau Aeron\/Cilcennin Eisteddfod Ceredigion am y gwahoddiad i berfformio yn Neuadd Cilcennin ddiwedd mis Ebrill, mewn noson i godi hwyl a chodi ymwybyddiaeth o\u2019r ffaith y byddai\u2019r Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn 2022. Cafwyd noson i\u2019w chofio ac roedd mor braf cael canu, cymdeithasu a chefnogi gweithgarwch cymunedol ac elusennol unwaith eto.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ystod y cyngerdd, roedd yn bleser gennym gyflwyno siec o \u00a31,000 i Glwb Cwlwm Cof (Forget me Knot) Ceredigion \u2013 yr elusen y buom yn codi arian iddi yn ystod 2019-20. Mae&#8217;r elusen yn cynnig cymorth gwerthfawr i bobl \u00e2 dementia a&#8217;u gofalwyr yng Ngheredigion a daeth Jenny Higgins, Cydlynydd y Clwb, i&#8217;r cyngerdd i dderbyn y siec ac i s\u00f4n ychydig am waith yr elusen.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><a href=\"https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/03\/Bois-y-Gilfach-Cilcennin-Ebrill-2022.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"554\" src=\"https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/03\/Bois-y-Gilfach-Cilcennin-Ebrill-2022-1024x554.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-218\" srcset=\"https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/03\/Bois-y-Gilfach-Cilcennin-Ebrill-2022-1024x554.jpg 1024w, https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/03\/Bois-y-Gilfach-Cilcennin-Ebrill-2022-300x162.jpg 300w, https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/03\/Bois-y-Gilfach-Cilcennin-Ebrill-2022-768x415.jpg 768w, https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/03\/Bois-y-Gilfach-Cilcennin-Ebrill-2022.jpg 1080w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><figcaption class=\"wp-element-caption\">Bois y Gilfach yn cyflwyno siec o \u00a31,000 i Jenny Higgins o Glwb Cwlwm Cof Ceredigion yn Neuadd Cilcennin ym mis Ebrill<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p>Yn dilyn hynny, buodd y bois yn diddanu cynulleidfaoedd yng Ngheinewydd \u2013 yng ngardd y Llew Du i ddechrau ac yna mewn priodas ddechrau Gorffennaf \u2013 cyn troi eu golygon tuag at yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron. Yno, cawsom rannu llwyfan \u00e2 Dewi Pws yn y T\u0177 Gwerin ar y dydd Gwener i berfformio peth o waith ysgafn D. Jacob Davies. Roedd y babell yn orlawn ac roedd gweld pawb o\u2019r gynulleidfa ar eu traed ar ddiwedd y perfformiad yn hwb mawr i hyder y bois. Diolch i bawb a ddaeth i\u2019n cefnogi.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Drannoeth roeddem yn \u00f4l yn Nhregaron, i forio canu ar Lwyfan y Maes y tro hwn, a chafwyd cyfle wedyn i ymlacio a chymdeithasu (a chanu mwy!) yn y bar cyn i\u2019r haul fachlud am y tro olaf ar faes Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym yn awr yn edrych ymlaen at flwyddyn newydd yng nghalendr Bois y Gilfach, sy\u2019n edrych yn brysur yn barod! Ein helusen yn ystod y flwyddyn sydd i ddod yw Ysbyty Plant Arch Noa yng Nghaerdydd, sy\u2019n agos iawn at galonnau aelodau\u2019r c\u00f4r. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at godi swm teilwng o arian i\u2019r ysbyty drwy ein gweithgarwch yn ystod 2022-23. Os hoffai unrhyw un ymuno \u00e2 ni, mae croeso i chi ddod i\u2019n hymarferion yn Nhafarn y Gilfach am 8pm bob nos Sul. Bydd croeso mawr i aelodau newydd.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Bois y Gilfach yn brysur! Ddechrau mis Hydref 2021 oedd hi pan benderfynodd Bois y Gilfach ailafael yn y canu ar \u00f4l y clo mawr, gan wneud hynny dan amodau gwahanol iawn i\u2019r arfer. Cafodd yr ymarferion eu symud dros dro i Gapel Mydroilyn er mwyn cael mwy o le, ac mae dyled y c\u00f4r [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-216","page","type-page","status-publish","hentry"],"translation":{"provider":"WPGlobus","version":"3.0.2","language":"gb","enabled_languages":["cy","gb"],"languages":{"cy":{"title":true,"content":true,"excerpt":false},"gb":{"title":false,"content":false,"excerpt":false}}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/216","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=216"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/216\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":223,"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/216\/revisions\/223"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=216"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}