{"id":183,"date":"2020-02-14T11:26:21","date_gmt":"2020-02-14T11:26:21","guid":{"rendered":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/?page_id=183"},"modified":"2020-02-14T12:19:29","modified_gmt":"2020-02-14T12:19:29","slug":"2020-ionawr","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/2020-ionawr\/","title":{"rendered":"2020 &#8211; Ionawr"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Gwaith elusennol gwych Bois y Gilfach<\/h2>\n\n\n\n<p>  Mae Bois y Gilfach \u2013 sy\u2019n hanu o Ddyffryn Aeron, ardal Banc Si\u00f4n Cwilt a\u2019r br\u00f6ydd cyfagos ac sy\u2019n cyfarfod yn wythnosol yn Nhafarn y Gilfach, Mydroilyn i ymarfer \u2013 yn parhau i ddiddanu cynulleidfaoedd yn gyson mewn cyngherddau a nosweithiau cymdeithasol. Ers y dechrau mae\u2019r parti wedi bod yn codi arian yn flynyddol i elusennau ac achosion da sy\u2019n cynnwys Canolfan y Bont (y ganolfan addysg i blant ag anghenion dwys yn Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan); Calonnau Cymru a Sefydliad y Galon; RABI; Ward Meurig yn Ysbyty Bronglais; Beiciau Gwaed Cymru; Parkinson\u2019s Cymru ac Ambiwlans Awyr Cymru. Yn ystod 2018\/19 dewisodd y bois gefnogi achos sy\u2019n agos iawn at eu calon, sef yr Uned Gemotherapi newydd a fydd yn cael ei hadeiladu cyn bo hir yn Ysbyty Bronglais.  <\/p>\n\n\n\n<p>  Roedd gweithgarwch y flwyddyn yn cynnwys cymryd rhan mewn nosweithiau cymdeithasol yn Nerwen Gam, Llanfihangel-ar-arth, Clwb Chwaraeon Aberaeron, Talgarreg, Sarnau, Llambed, Llwyncelyn a Cheinewydd; ymuno ag artistiaid eraill i ddilyn \u2018Llwybrau Robat Arwyn\u2019 yn Ysgol Bro Teifi, Llandysul; dathlu G\u0175yl Dewi yn Neuadd Goffa Aberaeron; canu mewn cymanfa yng Nghribyn; camu i\u2019r llwyfan yng Ng\u0175yl Gwenlli; a chymryd rhan ym mhriodas Ben, un o aelodau\u2019r parti.  <\/p>\n\n\n\n<p>  Yn ogystal \u00e2 mynychu digwyddiadau wedi\u2019u trefnu gan eraill, buodd y bois hefyd yn trefnu ambell weithgaredd eu hunain. Cawsant benwythnos i\u2019w gofio yng Nghaernarfon a Phen Ll\u0177n, diolch i\u2019r trip gwych a drefnwyd gan Arwel (cadeirydd y parti). Yn ystod y penwythnos, daeth cyfle i alw heibio i Ganolfan Ambiwlans Awyr Cymru ger Caernarfon i gyflwyno siec o \u00a31,200 i\u2019r elusen, sef ffrwyth gweithgarwch y bois yn ystod 2017\/18. At hynny cynhaliodd y parti wasanaeth Nadolig yng Nghapel Ty\u2019ngwndwn, Felin-fach lle llwyddwyd i godi \u00a31,000 i\u2019r Uned Gemotherapi newydd, diolch i haelioni a charedigrwydd mawr pobl Dyffryn Aeron a ffrindiau\u2019r bois.   <\/p>\n\n\n\n<p>  Ond uchafbwynt y flwyddyn, heb os, oedd y cyngerdd elusennol a drefnwyd gan Fois y Gilfach yn Neuadd y Celfyddydau, Coleg Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, Llambed ganol mis Ebrill y llynedd. Daeth cynulleidfa o dros 400 o bobl i fwynhau\u2019r arlwy cerddorol a oedd yn cynnwys perfformiadau gan Fois y Gilfach, Rhys Meirion a Ch\u00f4r Llanddarog. Cafwyd cyfle hefyd i wrando ar yr actores a\u2019r gyflwynwraig Ffion Dafis yn arwain sgwrs am ganser ac am bwysigrwydd gwaith Ward Leri, Ysbyty Bronglais ag Elin Jones AC (llywydd y noson), Arwyn Davies (sy\u2019n aelod o Fois y Gilfach ac a gafodd fudd o driniaeth gemotherapi ar Ward Leri yn ystod 2018\/19) a Rhian Prys Jones, nyrs arweiniol y ward.<\/p>\n\n\n\n<p>  Pleser mawr ym mis Ionawr eleni oedd mynd i Ward Leri i gyflwyno siec o \u00a310,000 i Dr Elin Jones a\u2019i staff. Roedd yn bleser gwrando ar Dr Elin yn s\u00f4n am y bwriad i greu Uned Gemotherapi newydd bwrpasol ym Mronglais a chlywed hefyd bod y gwaith adeiladu ar fin dechrau.  <\/p>\n\n\n\n<p>  Mae Bois y Gilfach yn ddiolchgar iawn i bawb am eu cefnogaeth gyson a hael i weithgarwch y parti ac maent wrthi\u2019n barod yn codi arian i\u2019w helusen ar gyfer eleni, sef achos da lleol sy\u2019n ceisio gwella bywyd i bobl \u00e2 dementia neu Glefyd Alzheimer.    <\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"800\" height=\"358\" src=\"https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/Rhai-o-Fois-y-Gilfach-yn-Ward-Leri-Ionawr-2020.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-178\" srcset=\"https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/Rhai-o-Fois-y-Gilfach-yn-Ward-Leri-Ionawr-2020.jpg 800w, https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/Rhai-o-Fois-y-Gilfach-yn-Ward-Leri-Ionawr-2020-300x134.jpg 300w, https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/Rhai-o-Fois-y-Gilfach-yn-Ward-Leri-Ionawr-2020-768x344.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 800px) 100vw, 800px\" \/><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Gwaith elusennol gwych Bois y Gilfach Mae Bois y Gilfach \u2013 sy\u2019n hanu o Ddyffryn Aeron, ardal Banc Si\u00f4n Cwilt a\u2019r br\u00f6ydd cyfagos ac sy\u2019n cyfarfod yn wythnosol yn Nhafarn y Gilfach, Mydroilyn i ymarfer \u2013 yn parhau i ddiddanu cynulleidfaoedd yn gyson mewn cyngherddau a nosweithiau cymdeithasol. Ers y dechrau mae\u2019r parti wedi bod [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-183","page","type-page","status-publish","hentry"],"translation":{"provider":"WPGlobus","version":"3.0.2","language":"gb","enabled_languages":["cy","gb"],"languages":{"cy":{"title":true,"content":true,"excerpt":false},"gb":{"title":false,"content":false,"excerpt":false}}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/183","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=183"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/183\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":196,"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/183\/revisions\/196"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=183"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}