{"id":181,"date":"2020-02-14T11:23:00","date_gmt":"2020-02-14T11:23:00","guid":{"rendered":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/?page_id=181"},"modified":"2020-02-14T12:17:58","modified_gmt":"2020-02-14T12:17:58","slug":"2018-mawrth","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/2018-mawrth\/","title":{"rendered":"2018 &#8211; Mawrth"},"content":{"rendered":"\n<p>Parti meibion ifanc o ran oed (neu ifanc o ran ysbryd!) yw Bois y Gilfach a sefydlwyd chwe blynedd a hanner yn \u00f4l erbyn hyn. Mae\u2019r bois yn hanu\u2019n bennaf o Ddyffryn Aeron, ardal Banc Si\u00f4n Cwilt a\u2019r br\u00f6ydd cyfagos ac maent yn cyfarfod yn wythnosol yn Nhafarn y Gilfach, Mydroilyn i ymarfer dan arweiniad Heledd Williams, Derwen Gam.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r bois wedi bod yn diddanu cynulleidfaoedd mewn cyngherddau a nosweithiau cymdeithasol yn gyson ers y dechrau gan godi arian i elusennau ac achosion da\u2019n flynyddol. Yn ystod y blynyddoedd cyntaf buont yn codi arian i Ganolfan y Bont (sef canolfan addysg i blant ag anghenion dwys yn Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan); Calonnau Cymru a Sefydliad y Galon (gan brynu dau ddiffibriliwr ar gyfer pentrefi Mydroilyn a Derwen Gam); RABI; a Ward Meurig yn Ysbyty Bronglais.<\/p>\n\n\n\n<p>Dewisodd y parti ddwy elusen i\u2019w cefnogi yn ystod 2016\/17, sef Beiciau Gwaed Cymru a Parkinson\u2019s Cymru. Roedd gweithgarwch y flwyddyn yn cynnwys cymryd rhan mewn cyngerdd arbennig gyda Rhys Meirion, Shan Cothi ac Aled Wyn Davies yn Aberystwyth; diddanu cynulleidfaoedd ar stepen ein drws ym Mydroilyn, Ciliau Aeron a Chaerwedros; mentro dair gwaith dros y ffin i Sir G\u00e2r i ganu yng Nghapel Llanddarog, Neuadd Bro Fana yn Ffarmers a Neuadd Pontargothi; a darparu adloniant mewn digwyddiadau cymdeithasol a drefnwyd gan Siambr Fasnach Aberaeron, Cylch Cinio Llambed, Pwyllgor Sioe Aberystwyth, C\u00f4r Llanpumsaint, Tafarn y Llew Du, Ceinewydd a G\u0175yl Bysgod Aberaeron. Cawsom y fraint hefyd o ganu mewn sawl priodas gan gynnwys priodas Aled, un o\u2019n haelodau, \u00e2 Diane yn Eglwys Llanon.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ogystal \u00e2\u2019r cyngherddau, cawsom gyfle i lwyfannu \u201cHwyl hael Jacob, y dwli a\u2019r digri\u201d yn Theatr Felin-fach, sef noson i ddathlu gwaith ysgafn D Jacob Davies. Dan arweiniad Dwynwen Lloyd Llywelyn a Heledd, cafodd y parti lawer o hwyl yn dysgu caneuon a limrigau newydd a gafodd eu cydblethu\u2019n gelfydd \u00e2 rhai o straeon digri Jacob, a gyflwynwyd gan Dewi Pws. Roedd y noson yn llwyddiant ysgubol ac yn brofiad gwerthfawr tu hwnt a fydd yn aros yn y cof am sbel.<\/p>\n\n\n\n<p>Penllanw holl weithgarwch y flwyddyn oedd gallu cyflwyno cyfanswm o \u00a31,500 i Feiciau Gwaed Cymru a Parkinson\u2019s Cymru mewn gwasanaeth Nadolig a gynhaliwyd gan Fois y Gilfach yng Nghapel y Bryn, Pentre\u2019r Bryn ym mis Rhagfyr. Graham Jones dderbyniodd y siec ar ran Beiciau Gwaed Cymru, a\u2019r Parch. Cen Llwyd dderbyniodd y siec ar ran Parkinson\u2019s Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae eleni yr un mor brysur \u00e2\u2019r llynedd i\u2019r parti, ac fe gewch chi ychydig o hanes ein hanturiaethau yn ystod 2017\/18 pan fyddwn yn cyflwyno siec ar ddiwedd y flwyddyn i Ambiwlans Awyr Cymru, sef yr achos da yr ydym wedi dewis ei gefnogi eleni.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym yn dal i ddenu a chroesawu aelodau newydd (mae gennym tua 30 o aelodau erbyn hyn), felly mae croeso i unrhyw un sy\u2019n mwynhau canu a chymdeithasu ymuno \u00e2 ni.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter\"><a href=\"http:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2018\/03\/Bois-y-Gilfach-2018.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"622\" src=\"http:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2018\/03\/Bois-y-Gilfach-2018-1024x622.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-137\" srcset=\"https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2018\/03\/Bois-y-Gilfach-2018-1024x622.jpg 1024w, https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2018\/03\/Bois-y-Gilfach-2018-300x182.jpg 300w, https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2018\/03\/Bois-y-Gilfach-2018-768x466.jpg 768w, https:\/\/boisygilfach.cymru\/wp-content\/uploads\/2018\/03\/Bois-y-Gilfach-2018.jpg 1524w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><figcaption>Bois y Gilfach yn rhannu \u00a31500.<br>Heledd Williams, Arweinydd\/cyfeilydd ac Arwel Jones, Cadeirydd ar ran Bois y Gilfach yn cyflwyno siec o \u00a3750 i&#8217;r Parch. Cen Llwyd ar ran&nbsp;Parkinson&#8217;s Cymru, sef hanner yr arian a godwyd drwy eu gweithgarwch yn ystod 2016\/17. Cafodd siec o \u00a3750 ei chyflwyno hefyd i Feiciau Gwaed Cymru.<br>Pic Tim Jones<\/figcaption><\/figure><\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Parti meibion ifanc o ran oed (neu ifanc o ran ysbryd!) yw Bois y Gilfach a sefydlwyd chwe blynedd a hanner yn \u00f4l erbyn hyn. Mae\u2019r bois yn hanu\u2019n bennaf o Ddyffryn Aeron, ardal Banc Si\u00f4n Cwilt a\u2019r br\u00f6ydd cyfagos ac maent yn cyfarfod yn wythnosol yn Nhafarn y Gilfach, Mydroilyn i ymarfer dan arweiniad [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-181","page","type-page","status-publish","hentry"],"translation":{"provider":"WPGlobus","version":"3.0.2","language":"gb","enabled_languages":["cy","gb"],"languages":{"cy":{"title":true,"content":true,"excerpt":false},"gb":{"title":false,"content":false,"excerpt":false}}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/181","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=181"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/181\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":193,"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/181\/revisions\/193"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/boisygilfach.cymru\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=181"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}